Mae Ysgol Llannefydd ar y safle presennol ers 1954 ac adeiladwyd estyniad yn 2001. Rydym yn croesawu ymholiadau gan unryw un sydd yn dymuno addysg dda i’w plant mewn ysgol naturiol Gymraeg a gwledig.
Mae gan yr ysgol adnoddau modern a’r cyfleusterau diweddaraf, sydd yn galluogi’r plant ddysgu a datblygu eu gallu mewn awyrgylch gefnogol, gyfeillgar a chyfoes.
Rydym yn ysgol ddiwyd a llwyddianus, sydd yn cymeryd rhan mewn llu o weithgareddau a llawer o gystadlaethau lleol a chenedlaethol e.e. Yr Urdd, Chwaraeon Yr Urdd, Menter Busnes, Yr Wyl Gerdd Dant a llawer mwy.
Mae’r ysgol yn rhan bwysig ac allweddol o’r gymuned, gan ddarparu bwyd i’r henoed a chynnal cyngherddau a gweithgareddau yn Neuadd y Pentref.
Mae clybiau ar ol ysgol yn rhan hanfodol o weithgareddau allgyrsiol yr ysgol ac yn galleogi gofal cwpasog.
Os hoffech ymweld a’r ysgol, cysylltwch a’r Pennaeth ar 01745540228 neu trwy ebost ar pennaeth@llanefydd.conwy.sch.uk.
